Wedi'i bostio ar

Croeso’n ôl

Croeso’n ôl

Newyddion da

Rydym wedi derbyn y wobr ‘Barod Amdani’ a byddwn yn ail-agor y parc Ddydd Llun, y 13eg o Orffennaf, am 10yb.

Rydym yn caniatáu i berchnogion yn unig i ddychwelyd yn eu holau i’r parc ar hyn o bryd a hynny oherwydd parhad y pandemig Covid-19.

Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at groesawu perchnogion a’n deiliaid tymhorol. Mae rheoliadau, mesurau a threfniadau newydd yn eu lle, a hynny ar ofynion Llywodraeth Cymru, yn barod i’ch croesawu’n ôl unwaith eto.  Byddwn yn eich hysbysu yn syth o unrhyw newidiadau neu ddiweddariad i’r rheolau cenedlaethol.

Mae dau blot ar gael ar ein safle ar hyn o bryd. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu carafán statig ar barc braf, gwledig a chartrefol Tyn y Coed, cysylltwch gyda ni ar 01286 675382 (ein horiau agor yn y swyddfa yw 10yb-6yh). Byddwn yn gweithredu ar system apwyntiadau’n unig ar hyn o bryd.