Gwybodaeth Leol

Gwybodaeth leol

Mae’r Parc wedi ei leoli lai na milltir o bentref Llanrug lle mae siopau, siop trin gwallt, cigydd a delicatessen a thafarnau. Gallwch gerdded i’r pentref ar hyd lôn gefn brydferth trwy glwyd breifat yn y Parc.

Mae tref Caernarfon lai na thair milltir i ffwrdd, gyda nifer fawr o siopau unigryw, lleoedd bwyta, ac, wrth gwrs, y Castell, gyda’i olygfeydd rhyfeddol tros y Fenai. Mae Rheilffordd Eryri yn cychwyn o Gaernarfon, a gallwch gymryd tripiau dwr o’r Harbwr.

I’r cyfeiriad arall, mae pentref enwog Llanberis o fewn pedair milltir – byddwch wedi gwirioni ar y golygfeydd o’r llyn ac mae cymaint i’w wneud yno, fel ymweld a’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol, mynd am drip ar Drên Stêm ar hyd ochr y llyn, yr hen chwarel a’r ysbyty yn edrych dros y pentref. Ac, wrth gwrs Yr Wyddfa – mynydd uchaf Cymru a Lloegr.   Mae’r golygfeydd o ben yr Wyddfa yn hollol wych, os cyrhaeddwch yno ar y trên neu wrth gerdded.

O fewn pedair milltir, mae cymaint i’w wneud. Golff, merlota, hwylio, dringo, ceredded, beicio, canw o, siopa, ymweld a’r traethau, ac, wrth gwrs, ymlacio!

Dolennau i atyniadau lleol

Mae gan Eryri atyniadau ffantastig i bob aelod y teulu, ifanc a hen.

Ymhellach i ffwrdd

Ychydig ymhellach i ffwrdd mae’r dewis heb ei ddiwedd, felly dyma rai i godi blys arnoch:

Dolennau o wybodaeth am drefi, pentrefi a dinasoedd yr ardal

Defnyddiwch gwefan Ymweld ag Eryri i ddarganfod mwy am ar ardal!

Teithiau

Rhannu...