Gwybodaeth leol

Mae’r Parc wedi ei leoli lai na milltir o bentref Llanrug lle mae siopau, siop trin gwallt, cigydd a delicatessen a thafarnau. Gallwch gerdded i’r pentref ar hyd lôn gefn brydferth trwy glwyd breifat yn y Parc.
Mae tref Caernarfon lai na thair milltir i ffwrdd, gyda nifer fawr o siopau unigryw, lleoedd bwyta, ac, wrth gwrs, y Castell, gyda’i olygfeydd rhyfeddol tros y Fenai. Mae Rheilffordd Eryri yn cychwyn o Gaernarfon, a gallwch gymryd tripiau dwr o’r Harbwr.
I’r cyfeiriad arall, mae pentref enwog Llanberis o fewn pedair milltir – byddwch wedi gwirioni ar y golygfeydd o’r llyn ac mae cymaint i’w wneud yno, fel ymweld a’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol, mynd am drip ar Drên Stêm ar hyd ochr y llyn, yr hen chwarel a’r ysbyty yn edrych dros y pentref. Ac, wrth gwrs Yr Wyddfa – mynydd uchaf Cymru a Lloegr. Mae’r golygfeydd o ben yr Wyddfa yn hollol wych, os cyrhaeddwch yno ar y trên neu wrth gerdded.
O fewn pedair milltir, mae cymaint i’w wneud. Golff, merlota, hwylio, dringo, ceredded, beicio, canw o, siopa, ymweld a’r traethau, ac, wrth gwrs, ymlacio!
Dolennau i atyniadau lleol
Mae gan Eryri atyniadau ffantastig i bob aelod y teulu, ifanc a hen.
- Parc Gelli Gyffwrdd
- Amgueddfa Lechi Cymru
- Rheilffordd Ucheldir Cymru & Rheilffordd Ffestinog
- Clwb Golff Caernarfon
- Castell Caernarfon
- Parc Coed Sipsi
- Piggery Pottery
- Castell Dolbadarn
- Cartio Redline
- Y Mynydd Gwefru
- Rheilffordd Llyn Padarn
- Rheilffordd yr Wyddfa
- Yr Hwylfan
- Canolfan Dringo y Beacon
- Stablau Marchogaeth Eryri
- Gwaith Llechi Inigo Jones
Ymhellach i ffwrdd
Ychydig ymhellach i ffwrdd mae’r dewis heb ei ddiwedd, felly dyma rai i godi blys arnoch:
Dolennau o wybodaeth am drefi, pentrefi a dinasoedd yr ardal
Defnyddiwch gwefan Ymweld ag Eryri i ddarganfod mwy am ar ardal!
