Ein safle

Gan nad oes gennym fflyd llogi – mae pob cartref gwyliau dan berchnogaeth breifat – mae hyn yn galluogi i chwi ddod i adnabod eich cymdogion ac ymlacio mewn amgylchedd cyfeillgar.
Mae cael cartref gwyliau eich hun yn cynnig profiadau gwych.
‘Does dim pwysau amser i frysio i bacio cyn eich gwyliau. Gyda’ch cartref oddi cartref, gallwch osod popeth yn ei le ar ddechrau’r tymor a bydd popeth yn barod i chi – dim ond rhoi’r tegell ymlaen neu agor potel o wîn a rhoi eich traed i fynu.
Gwybodaeth pellach am brynu eich cartref gwyliau, argaeledd a ffioedd safle ar gael – dim ond gofyn sydd eisiau.
Ein Safleoedd i Garafanau teithiol
Mae gan bob safle sylfaen caled ddwbwl. Yn ogystal â chyflenwad trydan a dwr. Mae gan ambell un fan gwastraff dwr llwyd.
Mae’r rhan fwyaf o’r llefydd wedi’u gosod i garafanau tymhorol ond gellir archebu lle am gyfnodau byr os oes rhai ar gael.
Am ragor o wybodaeth am argaeledd, cysylltwch â ni.
