
Carafan ar werth
Willerby 2022 Brenig Newydd ar werth- am rhagor o fanylion cysylltwch drwy ebost – info@tynycoedllanrug.cymru neu drwy ffonio 01286 675382

Willerby 2022 Brenig Newydd ar werth- am rhagor o fanylion cysylltwch drwy ebost – info@tynycoedllanrug.cymru neu drwy ffonio 01286 675382

Mae gennym argaeledd am un carafan tymorol o Fehefin. Os am fwy o fanylion – cysylltwch ar ebost info@tynycoedllanrug.cymru

Mae ein caeau tymor bellach yn llawn ar gyfer eleni. Os oes gennych ddiddordeb mewn sicrhau cae tymor ar gyfer 2021, cysylltwch â ni.

Rydym wedi derbyn y wobr ‘Barod Amdani’ a byddwn yn ail-agor y parc Ddydd Llun, y 13eg o Orffennaf, am 10yb.
Rydym yn caniatáu i berchnogion yn unig i ddychwelyd yn eu holau i’r parc ar hyn o bryd a hynny oherwydd parhad y pandemig Covid-19.
Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at groesawu perchnogion a’n deiliaid tymhorol. Mae rheoliadau, mesurau a threfniadau newydd yn eu lle, a hynny ar ofynion Llywodraeth Cymru, yn barod i’ch croesawu’n ôl unwaith eto. Byddwn yn eich hysbysu yn syth o unrhyw newidiadau neu ddiweddariad i’r rheolau cenedlaethol.
Mae dau blot ar gael ar ein safle ar hyn o bryd. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu carafán statig ar barc braf, gwledig a chartrefol Tyn y Coed, cysylltwch gyda ni ar 01286 675382 (ein horiau agor yn y swyddfa yw 10yb-6yh). Byddwn yn gweithredu ar system apwyntiadau’n unig ar hyn o bryd.

O ganlyniad i bandemig Covid 19 mae’r parc carafanau a’r bwthyn ar gau i ymwelwyr a pherchnogion ers Ddydd Sul 22 Fawrth.
Dymunwn y gorau i bawb ac fe welwn ni chi eto cyn hir!
Gwyn a Haf

Mae gennym safle gwag braf yn barod am garafan statig newydd o’ch dewis chwi.
Nawr yw’r amser i chwilio am fargeinion yn barod am flwyddyn nesaf.
Cewch ddewis eang ar wefan www.Lloydscaravans.co.uk

Mae yna safle carafan symudol tymhorol ar gael yn awr.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ar 01286 675 382 neu well byth dewch draw i’n gweld!
Welwn ni chi yn fuan!